top of page

BTEC Lefel 1 a Lefel 2

Mae Llwyddo* Lefel 1 a Lefel 2 yn adnodd cynhwysfawr sy’n cefnogi ysgolion uwchradd prif ffrwd, Unedau Cyfeirio Disgyblion a sefydliadau addysgol eraill i gyflwyno canlyniadau dysgu ABCh a Bagloriaeth Cymru. 

Mae’r pum pennod cyntaf yn canolbwyntio ar ABCh ac yn cael eu cyflwyno ar Lefel 1. Mae tair pennod arall yn adlewyrchu ar Heriau Sgiliau Bagloriaeth Cymru a gellir eu gwneud naill ai ar Lefel 1 neu Lefel 2, yn dibynnu ar allu ac anghenion y dysgwr.

Penodau Craidd ABCh

SweetIcons-0-1.png

Hunaniaeth Bersonol

SweetIcons-0-2.png

Rheoli Perthnasau

SweetIcons-0-4.png

Byw'n Iach

SweetIcons-0-3.png

Symud Ymlaen

SweetIcons-0-5.png

Materion Ariannol

Penodau Bagloriaeth Cymru

SweetIcons-0-7.png

Dinasyddiaeth Fyd-eang

SweetIcons-0-8.png

Cymuned

SweetIcons-0-6.png

Menter a Chyflogadwyedd

Mesurau Perfformiad yng Nghymru  

 

Yn ogystal â chefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau pwysig a dealltwriaeth, mae’r cymwysterau yn yr adnodd yn cyfrannu at fesurau perfformiad yng Nghymru.

Costau

Adnodd

Mae adnodd Lefel 1 a 2 ar gael yn Gymraeg a Saesneg a gellir ei gyflwyno fel rhan o wersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol a Bagloriaeth Cymru. Gellir hefyd cyflwyno’r adnodd ar wahân i’r rhain fel pwnc galwedigaethol.

 

Mae 8 pennod ar gael, wedi eu hargraffu mewn llyfrynnau wedi eu codio mewn lliwiau a’u cyflwyno mewn ffolder proffesiynol y gellir ei ddefnyddio i storio gwaith y dysgwyr wrth i’r cymhwyster gael ei gyflwyno.

 

Mae pob pennod yn cynnwys briffiau aseiniadau ar gyfer y BTEC Lefel 1 a Lefel 2 mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol. Darperir adnoddau ychwanegol fel cynlluniau gwaith, cyflwyniadau PowerPoint, sesiynau cychwyn a llawn hefyd wrth gofrestru dysgwyr, gan arbed amser cynllunio gwerthfawr i’r staff addysgu.

 

Cost £19.95 y dysgwr (wedi ei eithrio rhag TAW)

Cofrestru ar gyfer BTEC

 

Rydym yn cynnig gwasanaeth wedi ei reoli’n llawn.  Mae hyn yn cynnwys gweinyddu, cofrestru, dilysu mewnol, achrediad ac ardystiad. Byddwch hefyd yn cael Dilysydd Mewnol Llwyddo* fydd yn rhoi cymorth wedi ei deilwra i chi yn barhaus trwy gydol cyflwyno’r cymhwyster.

  • Dyfarniad Lefel 1 Pearson Edexcel mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol - £27.50 y dysgwr + TAW 

  • Dyfarniad Lefel 2 Pearson Edexcel mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol - £36.50 y dysgwr + TAW 
     

  • Tystysgrif Lefel 1 Pearson Edexcel mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol - £41.50 y dysgwr + TAW 
     

  • Tystysgrif Lefel 2 Pearson Edexcel mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol - £62.00 y dysgwr + TAW 

Hyfforddiant

Hyfforddiant ar y safle yn eich canolfan


Yn cynnwys sesiwn hyfforddiant 2 awr, wedi ei chrynhoi a gynhelir yn eich canolfan. Yn cynnwys eich holl ddeunydd cwrs, pecyn i athrawon a gwybodaeth am ganllawiau asesu. 

Person cyntaf fesul canolfan - £275 + TAW
Personau ychwanegol fesul canolfan - £50 + TAW 

bottom of page