Mwy am Llwyddo
Ein gwaith
​
Mae Llwyddo'n ymfalchïo yn ei gallu i ddarparu cymorth cynhwysfawr ar gyfer eich canolfannau. Pan fyddwch chi'n ymuno â rhaglen Llwyddo, nid dim ond yr adnodd Twf a Lles Personol fyddwch chi'n ei gael. Unwaith i chi gofrestru'ch dysgwyr gyda ni, byddwn ni'n rhoi llond lle o ddeunyddiau cymorth i chi, er enghraifft cynlluniau gwaith, cyflwyniadau PowerPoint, sesiynau cychwynnol a sesiynau llawn. Mae hyn yn arbed amser cynllunio a pharatoi gwerthfawr i staff addysgu.
​
Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth sydd wedi'i reoli'n llawn, ac mae'n cynnwys cyfrifoldebau gweinyddu, cofrestru, dilysu, achredu a chyhoeddi tystysgrifau, cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Mewnol, cymorth parhaus ac ymweld â chanolfannau. Mewn geiriau eraill, ry'n ni'n gwneud popeth ond yr addysgu!
​
Mae gennym lond lle o daflenni gwaith ychwanegol, RHAD AC AM DDIM ar wefan Llwyddo! Mae ein holl daflenni gwaith wedi eu cysylltu at ddigwyddiadau codi ymwybyddiaeth a dathliadau pwysig, er enghraifft Mis Hanes Pobl Dduon, Pride a Diwrnod Iechyd Meddwl. Gellir defnyddio'r taflenni gwaith fel adnoddau sy'n sefyll ar eu pennau eu hunain, a gellir eu defnyddio i gefnogi'r broses o gyflwyno'r cymhwyster Twf a Lles Personol, gan eu bod yn cysylltu'n agos at y themâu ymhob uned.
​
​
Pwy ydym ni?
​
Mae pob un o dîm Llwyddo yn weithwyr proffesiynol o fyd addysg, ac mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth a phrofiad fel athrawon, tiwtoriaid a phenaethiaid adrannau. Oherwydd hynny mae gennym ddealltwriaeth go iawn o anghenion a gofynion ysgolion, ac mae hefyd yn golygu ein bod ni wrth law ar unrhyw adeg i'ch helpu gyda'ch cwestiynau ac i'ch cefnogi wrth i chi gyflwyno rhaglen Llwyddo. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am dîm Llwyddo yn y fan hon.
​
​
​
​
​
Hanes Llwyddo
​
Yn 2009, gwelodd darparwr hyfforddiant yng Nghaerdydd, ACT, angen am ddeunyddiau, adnoddau a diwrnodau hyfforddiant er mwyn ail-feithrin y berthynas rhwng y dysgwyr ar ei hyfforddeiaethau a’r weithredo o ddysgu. Mae profiadau rhai o'r bobl ifanc o'r ysgol neu fyd addysg wedi bod yn rhai negyddol, am nifer o resymau gwahanol. Roedd Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Andrew Cooksley, yn llawn angerdd ynghylch y mater, ac fe gomisiynodd adnodd a hyfforddiant i helpu dysgwyr i ddod o hyd i'r rhwystrau, a gweithio trwy'r atebion i chwalu'r rhwystrau hynny.
​
Wrth i'r adnodd symud yn ei flaen a thyfu, crëwyd yr enw Sweet yn Saesneg (sef acronym ar gyfer Succeeding Within Education, Employment and Training) a'r enw Llwyddo yn Gymraeg i adlewyrchu’r egwyddorion hyn. Y brwdfrydedd angerddol tu ôl i Llwyddo oedd y dylai pob plentyn neu berson ifanc fod eisiau llwyddo mewn bywyd, ac y dylent gael y cyfle a'r sgiliau i wneud hynny.
​
Cyflwynodd ACT raglen Llwyddo ar draws ei holl ganolfannau, a ganed cwmni Llwyddo! Yna, treialwyd adnodd Llwyddo gyda dau ddosbarth Cyfnod Allwedd 4 mewn ysgol yng Nghymru. Roedd y disgyblion a ddewiswyd yn cael anawsterau gyda'u presenoldeb a'u hymddygiad yn bennaf, ac nid oeddent yn ymgysylltu â bywyd ysgol. Ar y pwynt hwnnw dechreuodd Llwyddo fapio'r adnoddau yn erbyn cymhwyster i ddysgwyr a fyddai'n eu galluogi i ennill credyd am eu gwaith ac a fyddai’n ysgogiad iddynt gwblhau'r gwaith. Yn ddigon buan dechreuodd Llwyddo gael effaith aruthrol ar gyrhaeddiad academaidd a phresenoldeb yn yr ysgol.
​
Buan yr ardystiwyd adnodd Llwyddo gan Pearson, ac roedd yn gallu cefnogi eu cymhwyster BTEC Lefel 1 a 2 mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol, yn llwyr. Mapiwyd yr adnodd yn erbyn Tystysgrif Sgiliau Bagloriaeth Cymru hefyd. Arweiniodd hyn at dwf sylweddol, wrth i'r rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru ddechrau defnyddio Llwyddo, ac wrth i ganolfannau yn Lloegr ymuno hefyd.
​
Mae Llwyddo wedi parhau i dyfu dros y blynyddoedd, ac erbyn hyn rydym yn gweithio gyda mwy nag 8000 o ddisgyblion a 200 o ganolfannau ledled Cymru a Lloegr. Mae'r canolfannau hyn yn cynnwys ysgolion uwchradd, colegau, unedau cyfeirio disgyblion, gwasanaethau ieuenctid, ysbytai iechyd meddwl, cartrefi gofal a mwy. Ein hadnodd Twf a Lles Personol yw ein hadnodd fwyaf poblogaidd hyd yn hyn, felly beth am daflu golwg drosoch chi'ch hun a dechrau ar eich siwrnai Llwyddo heddi’!